Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021

 

Pwynt Craffu Technegol

Mae’r cyfeiriad at baragraff 1(5) yn anghywir. Fe ddylai gyfeirio at baragraff 11(2). Bydd hwn yn cael ei gywiro fel diwygiad yn y Rheoliadau nesaf sydd ar gael sydd i gael eu gwneud ym mis Mai 2022.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau

Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod y Memorandwm Esboniadol yn anghywir. Bydd y Memorandwm Esboniadol yn cael ei ailosod i ddileu’r cyfeiriad at y pŵer galluogi o dan adran 22(2)(d) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1982.